– Rydych wedi ymrwymo i’r dull o weithio ac yn darganfod sut i’w ddefnyddio yn eich gwaith a/neu eich cymuned.
– Rydych yn cysylltu, rhannu a dysgu gydag aelodau eraill (dinasyddion a gweithwyr proffesiynol) ar draws sectorau ar hyd a lled Cymru, ar-lein ac ar lefel bersonol.
– Rydych yn derbyn ebost misol gyda diweddariadau ar gydgynhyrchu a hysbysebion ar gyfer digwyddiadau.
– Rydych yn mynychu sesiynau Cydgynhyrchu rhanbarthol dan arweiniad aelodau.
– Gallwch ymuno â’r sesiynau ‘Gofynnwch unrhyw beth’ gydag ymarferwyr eraill ym maes cydgynhyrchu.
– Gallwch gymryd rhan mewn ‘Copro Convos’ (gweminarau ar thema dysgu ac arferion) a themâu cydgynhyrchu a chyfrannu, dysgu arfau newydd gan gynnwys technegau monitro a gwerthuso.
– Byddwch yn derbyn rhybudd cynnar o Gynhadledd Flynyddol Cydgynhyrchu Cymru.
– Gallwch ddangos eich arferion a dathlu eich prosiectau, rhannu straeon a datrys heriau gydag aelodau eraill.
– Gallwch ddefnyddio a chyfrannu at adnoddau, astudiaethau achos a sylfaen tystiolaeth gynyddol.
– Ceir mynediad at aelodau’r rhwydwaith sydd â ffocws arbenigol (hyfforddiant, ymchwil, fesul sector, fesul pwnc, a mwy).
– Gallwch gyfrannu at lais y gymuned cydgynhrychu er mwyn cael dylanwad ar bolisi a’r broses o wneud penderfyniadau.
– Gallwch fod yn rhan o sefydliad sy’n sefyll dros Gymru decach a mwy cynaliadwy, lle mae gan bawb lais.