Cychwynnodd hyn oll yn 2012 gan ddwy fenyw ar draws bwrdd y gegin, fel menter wirfoddol. Ar hyd y ffordd, cynhaliwyd ymchwil, trefnwyd digwyddiadau, cynhaliwyd ymgyrchoedd i ddylanwadu ar ddeddfwriaeth, a chychwynnwyd cyflwyno hyfforddiant ac ymgynghoriaeth. Derbyniwyd cyllid y Gronfa Loteri Fawr (2016-2019), oedd yn golygu y gallwn sefydlu fel Rhwydwaith ffurfiol gyda’r seilwaith cysylltiedig. Bellach, sefydliad annibynnol dielw ydym, sy’n cefnogi nifer gynyddol o aelodau, ac yn gweithio ar y cyd i drawsnewid gwasanaethau cyhoeddus.