
Cyfarwyddyd ‘Gwella Bywydau, Gwella Arfer’
March 5 @ 9:00 am - 4:00 pm
FreeEvents Navigation

Digwyddiad lansio: 5 Mawrth, Park Inn Canol Dinas Caerdydd
Dros y deunaw mis diwethaf, mae’r sector anableddau dysgu wedi dod ynghyd i ddatblygu dogfen sy’n cynnig fframwaith a chanllaw i helpu yn y gwaith o lywio a gwella comisiynu.
Bydd y ddogfen yn cael ei lansio ar 5 Mawrth, gyda sesiynau rhyngweithiol i ddod â’r ddogfen yn fyw a’i rhannu’n gamau pendant y gallwn ni fel sector eu cymryd.
Digwyddiad rhad ac am ddim yw hwn, ac mae’n gyfle gwych i fod yn bresennol ar ddechrau rhywbeth all chwyldroi ein gwasanaethau a rhoi cyfle i’r rhai rydym yn eu helpu i fod wrth galon y gofal a’r gefnogaeth a roddir iddynt.
Nodau:
- Ceisio cael ymrwymiad i newid arferion comisiynu
- Sicrhau bod teuluoedd a defnyddwyr gwasanaethau wrth galon y broses
- Dylanwadu ar arferion comisiynu i ganolbwyntio ar ‘fywyd da’
- Defnyddio enghreifftiau o arfer da i ddylanwadu ar newid
- Nodi cyfleoedd i sicrhau bod gweithredu’n gost-effeithiol a rhoi gwerth am arian yn bosibl ochr yn ochr â dulliau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
Cefnogir y digwyddiad hwn gan Cymorth Cymru, Anabledd Dysgu Cymru, acYmgynghoriaeth Annibynnol Gofal Cymdiethasol Garland gyda chymorth ariannol ganFwrdd Comisiynu Cenedlaethol Cymru.
Do you have an event of your own that you want to tell the co-production community about? Submit the details so we can display it on the calendar and spread the word through the newsletter. Click here for the event details form.