Ein ffordd o weithio
Cychwynnwn drwy ddod i’ch adnabod. Nid yw hynny’n fawr o syndod! Mae angen inni eich deall, fel tîm ac fel sefydliad, ynghyd â’ch disgwyliadau, dyheadau a chanlyniadau arfaethedig. Byddwn yn gofyn cwestiynau sy’n egluro diben y prosiect, a’n sgyrsiau yn sgil hynny.
O hynny ymlaen, byddwn yn gwneud pethau “gyda” chi, yn hytrach nag “ar eich cyfer”. (Swnio’n gyfarwydd?) Byddwn yn dod ar y daith gyda chi, ac yn dangos pecyn cymorth o dechnegau a sgiliau sy’n meithrin cydgynhyrchu arwyddocaol. Byddwn yn rhoi arweiniad a chyngor ichi, ac yn defnyddio ein profiad o weithio ym maes cydgynhyrchu gydag amrediad eang o sefydliadau a sectorau. Byddwn yn helpu magu sgiliau cydgynhyrchu a hyder eich tîm.
Mae ein holl brosiectau’n edrych yn wahanol iawn, ond mae tri pheth yn berthnasol bob amser:
– Amrywiaeth a chynhwysiant, oherwydd un o’r sylfeini i bawb sydd â diddordeb yn y canlyniadau yw cael llais yn y broses.
– Monitro a (chyd-)werthuso, er mwyn inni wybod beth sy’n dda, a’n bod ni ar y trywydd iawn.
– Meithrin cysylltiadau llawn ffydd, oherwydd hwyrach y byddwn yn gweithio ar brosiect, ond byddwn yn cadw llygaid ar yr hirdymor bob amser.
Nid ymgynghoriaeth gyffredin ydym. Byddwn yno ac yn barod i roi cymorth ymarferol ichi bob cam o’r ffordd, ond byddwn hefyd yn eich paratoi i allu gwneud hyn dros eich hunan. Nid ydym am ysgwyddo’r cyfrifoldeb a’i wneud ar eich rhan chi.
Dyma’r costau i weithio gyda ni (taflen costau pdf).
Yn ogystal â theilwra’r gwasanaethau ar gyfer eich achos penodol chi, gallwn hefyd gynnig hyfforddiant parod, a phecynnau ymgynghori ar gyfer anghenion cyffredin. Gweler mwy o wybodaeth isod!